Eich enw:        Katherine Owen     

 

Sefydliad (os yw'n berthnasol): Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon      

 

Cyfeiriad e-bost: clercydref@caernarfontowncouncil.gov.uk      

 

Rhif Ffôn: 01286 672943     

 

Eich cyfeiriad: adeilad yr Institiwt, allt pafiliwn, caernarfon LL55 1AS      

 

 

 

Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol

 

Cwestiwn 1: A oes angen Bil i wneud newidiadau i gyfansoddiad a swyddogaethau’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ("y Comisiwn") ac i wneud amrywiol ddarpariaethau mewn perthynas â llywodraeth leol?

Oes

Nac oes

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Mae Cyngor Tref Caernarfon yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiwygio a moderneiddio Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Mae angen deddfwriaeth er mwyn gallu cryfhau gallu, grymoedd ac adnoddau’r Comisiwn.

     

 

 

Cwestiwn 2: A ydych o'r farn y bydd y Bil yn gwella’r dull o gyflawni rolau a swyddogaethau statudol y Comisiwn? (paragraff 3.1 o'r Memorandwm Esboniadol)

Ydw

Nac ydw

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Mae’r Bil yn cyflwyno nifer o newidiadau deddfwriaethol fydd yn gwella eglurder rôl a phwrpas y Comisiwn o ran ei waith gyda Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, tra ar yr un pryd yn caniatáu hyblygrwydd i’r dyfodol o ran gallu’r Comisiwn i ddelio â chyrff cyhoeddus eraill.

     

 

 

Cwestiwn 3: A ydych o'r farn bod y newidiadau sy'n cael eu gwneud i'r Comisiwn yn briodol? (Rhan 2 y Bil)

Ydw

Nac ydw

 

Mae’r Bil yn esbonio prosesau clir ar gyfer gwella swyddogaethau’r Comisiwn ac maent yn briodol ac i’w croesawu.

     

 

 

Trefniadau Llywodraeth Leol

 

Cwestiwn 4: A ydych o'r farn bod y darpariaethau mewn perthynas â gweithdrefnau ar gyfer adolygiadau llywodraeth leol yn briodol? (Pennod 4 a 5)

Ydw

Nac ydw

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Bydd Cyngor Tref Caernarfon yn cefnogi’r newidiadau a awgrymir yn yr adrannau hyn – yn benodol felly’r angen i’r Comisiwn ddilyn gweithdrefn benodol ar gyfer eu cynigion – ar yr amod fod Cynghorau Cymuned a Thref yn cael cyfle llawn i gyfrannu i bob cam o bob adolygiad. Dylai unrhyw drefniadau o’r fath ofalu fod dwy haen llywodraeth leol yn cael eu trin yn gyfartal yn hyn o beth. Rydym yn cefnogi  ffordd o weithio sy’n seiliedig ar wir bartneriaeth. Byddem hefyd yn croesawu cynigion sy’n rhoi hawl i gynghorau cymuned a thref apelio i’r Gweinidog yn erbyn canlyniadau adolygiadau llywodraeth leol. O ran yr adolygiad o gymunedau a gynhelir, byddai Un Llais Cymru yn awyddus i weld cynigion sy’n mynnu fod y Comisiwn yn cyhoeddi sut y bwriada gynnal yr adolygiad cyn mynd ati i wneud hynny. Ange sicrhau amser digonol I Cynghorau cymuned a Thref ymateb

     

 

 

Cwestiwn 5: A ydych o'r farn bod y trefniadau ar gyfer llywodraeth leol mewn perthynas â:

  • Dyletswyddau'r Comisiwn
  • Dyletswyddau prif gynghorau

yn briodol? (Pennod 1)

Ydw

Nac ydw

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Trowch at Gwestiwn 4.

     

 

 

Cwestiwn 6: A ydych o'r farn bod y trefniadau ar gyfer llywodraeth leol mewn perthynas â:

  • Pwyllgorau Gwasanaethau Democrataidd (Adran 56)
  • Pwyllgorau Archwilio (Adran 57)
  • Pwyllgorau Safonau (Adran 63)

yn briodol?

Ydw

Nac ydw

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Mae Cyngor Tref Caernarfon yn cytuno ag egwyddor y cynigion a gynhwysir yn yr adrannau hyn, ar yr amod fod Cynghorau Cymuned a Thref yn cael eu diogelu yn erbyn  unrhyw oblygiadau andwyol oherwydd yr ardaloedd daearyddol ehangach gaiff eu creu yn sgîl sefydlu cyd bwyllgorau safonau. Mae nifer fawr o gynghorwyr lleol eisoes yn byw gryn bellter o’r canolfannau gweinyddol ar gyfer y gweithgareddau hyn.

Ar hyn o bryd mae Pwyllgorau Safonau yn cynnwys cynrychiolaeth gan gynghorau cymuned a thref a dylai unrhyw newidiadau sy’n digwydd yn sgîl creu cyd bwyllgorau sicrhau nad yw’r gynrychiolaeth hon yn cael ei gwanhau mewn unrhyw ffordd.

     

 

 

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

 

Cwestiwn 7: A ydych o'r farn bod y darpariaethau mewn perthynas â Phanel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn briodol? (Pennod 5, Adrannau 58-62)

 Ydw

Nac ydw

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Ydw -

 

 

Mynediad at wybodaeth (Cynghorau Tref a Chymuned)

 

Cwestiwn 8: A ydych o'r farn bod y darpariaethau mewn perthynas â hwyluso mynediad at wybodaeth (Cynghorau Tref a Chymuned) yn briodol?

Ydw

Nac ydw

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Mae Cyngor Tref Caernarfon yn cytuno ag egwyddor y cyfeiriad a’r canlyniadau yr anelir atynt o ran gwybodaeth i Gynghorau Cymuned a Thref yn y Bil hwn. Fodd bynnag, mae diffyg dealltwriaeth amlwg o ran goblygiadau’r cyfeiriad hwnnw i’r awdurdodau llai, ac mae angen cael casgliad o ganllawiau pendant, yn seiliedig ar ddadansoddiad cadarn o anghenion a gofynion y sector, cyn gweithredu unrhyw gynigion i’r perwyl hwn.

 

Rhagwelir hefyd, yn dilyn y cyfryw ddadansoddiad, y bydd hynny’n creu goblygiadau adnoddau i Lywodraeth Cymru. Manylir ymhellach ar yr agweddau hynny yng Nghwestiynau 11 ac 13.

 

Mae Cyngor Tref Caernarfon yn credu y dylai’r Bil ganiatáu ar gyfer darparu cymorth grant penodol i bob cyngor cymuned a thref yng Nghymru er mwyn darparu ar gyfer yr angen i greu cyswllt electronaidd i wybodaeth ac y dylai gyfrif am 80% o’r adnoddau angenrheidiol i ddarparu gwybodaeth yn electronaidd. Byddai hynny’n gwneud y sector yn gydradd â darparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill sy’n derbyn cymorth refeniw i hwyluso’r elfen hon o’r broses ddemocrataidd. 

     

 

 

Cadeirio Prif Gynghorau (Cadeiryddion a Meiri Prif Gynghorau)

 

Cwestiwn 9: A ydych o'r farn bod y darpariaethau mewn perthynas â Chadeirio Prif Gynghorau (Cadeiryddion a Meiri Prif Gynghorau) yn briodol?

Ydw

Nac ydw

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Nid oes unrhyw sylwadau y mae am eu hychwanegu ar y cwestiwn hwn.

     

 

 

 

 

 

 

 

 

Darpariaethau Cyffredinol y Bil

 

Cwestiwn 10: Beth yw'r rhwystrau posibl i roi darpariaethau'r Bil ar waith (os ydynt yn bodoli), ac a yw'r Bil yn rhoi ystyriaeth ddigonol iddynt?

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Yn gyffredinol, mae’r Bil yn cyflwyno nifer o brosesau newydd yr ydym yn eu croesawu ac a fydd yn gwella’r trefniadau presennol.

 

Fodd bynnag, mae’r cynigion ar gyfer galluogi Cynghorau Cymuned a Thref i allu derbyn gwybodaeth yn cynnwys rhwystrau posib o ran capasiti, arbenigedd, hyfforddiant a/neu gyllid digonol ar ran yr awdurdodau llai. Nid yw’r Bil yn ei fformat presennol yn rhoi sylw digonol i’r rhwystrau hyn. Mae’r ymateb i gwestiwn 8 yn cyflwyno barn y sector ar sut ddylid mynd i’r afael â’r diffyg adnoddau presennol.

     

 

 

Cwestiwn 11: Beth yw goblygiadau ariannol y Bil, os ydynt yn bodoli? Wrth ateb y cwestiwn hwn, mae'n bosibl y byddwch am ystyried Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol (yr Asesiad Effaith) sy'n cynnwys amcangyfrif o'r costau a'r buddion sy'n gysylltiedig â rhoi'r Bil ar waith.

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Fel y nodwyd yng Nghwestiwn 10, byddai’r rhwystrau posib i nifer o gynghorau yn cynnwys materion fel capasiti, arbenigedd a’r angen am hyfforddiant ac mae gan y materion hyn oblygiadau ariannol uniongyrchol.

 

Nid yw darparu gwefan o reidrwydd yn gwarantu darparu gwybodaeth fanwl-gywir, ddibynadwy, briodol, gynhwysfawr a chyfredol. Dichon fod nifer fawr o wefannau cynghorau yn cynnwys gwybodaeth ddiddorol, ond mae’n waith anodd iawn i sefydliadau bychain gadw rheolaeth lawn a chyson ar y gwaith o ddarparu’r holl wybodaeth y gallai pobl leol ddisgwyl iddynt ei darparu.

 

Ceir datganiadau yn y memorandwm esboniadol ar sut ellid cael ateb technegol i’r heriau hyn, ond prin yw’r cymorth a gynigir i gynghorau o ran pa sgiliau, capasiti neu elfennau eraill fyddai’n ddisgwyliedig ganddynt er mwyn bodloni gofynion gwybodaeth y cyhoedd yn gyffredinol.

 

     

 

 

Cwestiwn 12: Beth yw eich barn am y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (hynny yw, offerynnau statudol, gan gynnwys rheoliadau a gorchmynion) (adran 5 y Memorandwm Esboniadol)?

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Nid oes unrhyw sylwadau y mae am eu hychwanegu ar y cwestiwn hwn.

     

 

 

Cwestiwn 13: A oes unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud am rannau penodol o'r Bil?     

 

Mae’r sylwadau hyn yn ymwneud â’r cynigion ar gyfer galluogi Cynghorau Cymuned a Thref i gael gafael ar wybodaeth.

 

Mae’r trosolwg yn y memorandwm esboniadol yn dweud bod cyfran helaeth o’r cyhoedd erbyn hyn yn defnyddio’r Rhyngrwyd, e-bost a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol i ddod o hyd i wybodaeth am eu hardal leol, cael gwybod pa wasanaethau sydd ar gael a chysylltu â chyrff cyhoeddus a bod cyrff cyhoeddus hwythau’n cyhoeddi llawer iawn o wybodaeth am eu gwaith, eu trefniadaeth a’u cyfrifoldebau mewn fformat electronaidd. Yr hyn na ddywedir mohono yw nad yw cyfran sylweddol o’r chwiliadau hynny’n arwain at gael gafael ar yr wybodaeth angenrheidiol yn uniongyrchol oddi wrth y corff sector cyhoeddus perthnasol. Enghraifft bosib o hynny yw rhywun yn chwilio am wybodaeth am oriau agor eu meddygfa leol neu eu llyfrgell leol, pan allent fod wedi dod o hyd i’r wybodaeth berthnasol heb orfod defnyddio gwefan y bwrdd iechyd lleol neu’r cyngor unedol lleol. Yn wir, mae’r union enghraifft honno’n cynnig rhyw gymaint o gyfiawnhad o blaid galluogi trosglwyddiadau gwybodaeth o’r fath trwy lwyfan cydweithredol, yn hytrach nac annog cyrff unigol i lwytho darnau o wybodaeth sydd yn aml yn gorgyffwrdd â’r hyn a ddarperir gan gyrff eraill.

 

Mae’r trosolwg yn dweud hefyd fod gan tua hanner  cynghorau cymuned a thref wefannau yn barod, a cheir awgrym pendant yn y memorandwm esboniadol y dylai’r nifer hwnnw dyfu’n gyflym. Fodd bynnag, nid yw’r dadansoddiad a gyflwynir yma’n gwneud y pwynt sylfaenol nad yw darparu gwefan o reidrwydd yn golygu darparu gwybodaeth fanwl-gywir, ddibynadwy, briodol, gynhwysfawr a chyfredol. Efallai fod nifer fawr o’r gwefannau yn cynnwys gwybodaeth ddiddorol, ond mae’n waith anodd iawn i sefydliadau bychain gadw rheolaeth lawn a chyson ar y gwaith o ddarparu’r holl wybodaeth y gallai pobl ddisgwyl iddynt ei darparu.

 

Mae’r asesiad effaith yn mynd ati i fanylu ar rai o’r materion hyn, gan ragdybio y bydd cyflwyno bil yn cyflymu’r hyn sy’n debygol o ddigwydd yn naturiol dros gyfnod o amser. Mae’n ddigon posib fod hynny’n wir, ac yn yr ystyr honno ni fyddai hynny ynddo’i hun yn nod amhriodol, ond nid oes unrhyw eglurder yn y memorandwm esboniadol o ran beth yn union sydd angen ei gynnwys mewn gwefan cyngor cymuned neu dref. Cynhwysir datganiadau ynghylch sut ellid ystyried ateb technegol, ond ychydig iawn a geir er mwyn helpu cynghorau gyda pha fath o sgiliau, capasiti neu agweddau eraill ar yr her hon fyddai eu hangen arnynt a sut orau ddylid mynd ati i gynllunio’r dasg o reoli cynnwys y wefan.

 

Mae’r adran ar gostau a manteision yn parhau i gyflwyno dadleuon yn y modd a ddisgrifir uchod, heb roi ystyriaeth ddigonol i’r agweddau hynny ar ddarparu gwybodaeth y mae’n bwysicaf ymdrin â nhw yn y cyswllt hwn. Mae’r awgrymiadau gwahanol ar gyfer gwneud y dasg yn haws i gynghorau yn cynnwys yn bennaf syniadau sy’n galw am gyfraniad gan drydydd parti. Fodd bynnag, mae’n annhebyg y bydd gan ddarparwyr trydydd parti yr holl wybodaeth leol fyddai ei hangen er mwyn darparu’r union math o gynnwys y byddai cymunedau yn chwilio amdano.

 

Felly, mae angen i’r canllawiau gan y gweinidog a addawyd yn y cyd-destun hwn fod yn gynhwysfawr iawn.